Lleoliad: O Bell
Dyddiad: Dydd Llun, 11 Gorffennaf 2022
Amser:
14.00
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch a:
Gareth Price - Clerc y Pwyllgor
0300 200 6565
Deisebau@senedd.cymru
------
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
(Tudalennau 1 - 14)
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru.
(Tudalennau 15 - 22)
Yr Athro Abigail Marks (Athro Dyfodol Gwaith), Prifysgol Newcastle
Will Stronge (Cyfarwyddwr Ymchwil), Autonomy
Louisa Neale (Ysgogydd Arweiniol Newid Pobl a Diwylliant), Comisynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Cheney Hamilton (Prif Swyddog Gweithredol a Sylfaenydd), sefydliad Find Your Flex
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1281 Rhaid atal gollyngiadau carthion amrwd ar fyrder ym Mae'r Tŵr Gwylio a’r Hen Harbwr yn y Barri.
(Tudalennau 23 - 29)
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru
(Tudalennau 30 - 34)
4.2 P-06-1251 Dylid sicrhau’r hawl i fynediad o bell i bobl anabl a niwrowahanol
(Tudalennau 35 - 39)
4.3 P-06-1268 Dylid adolygu'r broses o ran statws ardaloedd wedi'u rhag-asesu ar gyfer tyrbinau ar y tir, sy'n rhoi unigolion dan anfantais annheg
(Tudalennau 40 - 52)
4.4 P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
(Tudalennau 53 - 64)
4.5 P-05-1086 Dylid creu Amgueddfa Genedlaethol ar gyfer Hanes a Threftadaeth Pobl Dduon ac Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig
(Tudalennau 65 - 68)
Papur i’w nodi
4.6 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
(Tudalennau 69 - 70)
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill cyfarfod
6 Adroddiad drafft - P-06-1212 Deddf Mark Allen – rydym ni am weld gorsafoedd cortyn taflu o amgylch pob safle dŵr agored yng Nghymru
(Tudalennau 71 - 91)
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1247 Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd drwy gefnogi treialon wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru
8 Dulliau o weithio
(Tudalen 92)